Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Hydref 2018
Amser:
13.21 -
16.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5035.tv/
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Shan Morgan, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru Peter Ryland, WEFO |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Richard Harries Mark Jeffs |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC.
1.3 Gwnaeth Adam Price AC ddatganiad o fuddiant yn sgil y ffaith mai ef yw'r Comisiynydd sy'n gyfrifol am ieithoedd swyddogol y Cynulliad, ac am ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau i'r Aelodau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn mewn perthynas â chyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18: Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethiant; Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol; a Peter Ryland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
3.2 Cytunodd Shan Morgan i gymryd cyngor cyfreithiol ynghylch a yw'n bosibl iddi ddatgelu rhagor o wybodaeth am gytundebau prydlesu rhwng Llywodraeth Cymru ac is-ddeiliaid prydlesoedd a fydd yn denantiaid sydd â meddiant.
3.2 Cytunodd Peter Ryland i ofyn i'w gydweithwyr ym maes materion gwledig a yw llysiau a ffrwythau wedi'u plannu, er enghraifft, fel rhan o Brosiect LEADER, a hynny at ddibenion ymateb i unrhyw argyfyngau mewn porthladdoedd a allai effeithio ar nwyddau darfodus sy'n cael eu mewnforio.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.
7.1 Nododd yr Aelodau y flaenraglen waith.